Mae’r opera sebon ar S4C, Pobol y Cwm wedi ennill gwobr gan yr elusen Mind am ei phortread o anhwylder obsesiynol cymhellol – neu OCD.

Mae’n ennill gwobr y Cyfryngau, sy’n dathlu enghreifftiau gorau o bortreadu iechyd meddwl ar y cyfryngau print, darlledu a digidol.

Dyfarnwyd y wobr i Pobol y Cwm yng nghategori’r operâu sebon gan guro Coronation Street, Emmerdale, Holby City a Hollyoaks i ddod i’r brig.

Mae un o gymeriadau’r gyfres ddrama, Iolo White, sy’n cael ei chwarae gan Dyfan Rees, yn datblygu symptomau o’r anhwylder, ac mae’n ceisio cuddio hynny oddi wrth ei deulu a’i ffrindiau.

Ond wrth i’w gyflwr waethygu, mae’n cael ei hun mewn perygl o golli ei gartref a’i swydd, ac mae’n rhaid iddo dderbyn bod angen help arno.

‘Profiadau y gall y gynulleidfa uniaethu â nhw’

“Mae hi’n bwysig i ni fel cyfres ddarlunio profiadau go iawn, profiadau sy’n berthnasol i’n cynulleidfa, a phrofiadau y gall ein cynulleidfa uniaethu â nhw,” meddai Llŷr Morus, cynhyrchydd y gyfres.

“Mae cael ein cydnabod am hynny ochr yn ochr ag operâu sebon eraill sydd ar y brig ym Mhrydain yn glod i’r gwaith anhygoel mae awduron, actorion ac adrannau golygyddol a chynhyrchu’r gyfres wedi cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Dyma’r ail dro i’r opera sebon ennill y wobr, y tro diwethaf yn 2009 am bortreadu mam sengl yn dioddef o iselder ar ôl geni babi.

Yn ôl Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg y BBC, mae’n “hollbwysig” bod cyfresi poblogaidd fel Pobol y Cwm yn “delio gyda phynciau a storïau anodd fel hyn sy’n gyffredin o fewn cymdeithas.”

Teyrnged i’r actor a’r tîm

Ac ychwanegodd, Gwawr Martha Lloyd Comisiynydd Drama yn S4C: “Mae Pobol y Cwm wedi llwyddo i greu stori afaelgar a thynnu sylw at iechyd meddwl mewn ffordd ddidwyll a gonest.

“Mae’n deyrnged i’r actor Dyfan Rees sy’n chwarae rhan y cymeriad sensitif, hoffus, Iolo White ac yn deyrnged i’r tîm cynhyrchu am y sgript, saernïaeth a gwerthoedd cynhyrchu uchel.”