Ffoaduriaid o Syria
Mae awyren yn cludo’r ffoaduriaid cyntaf o Syria i’r DU wedi cyrraedd maes awyr Glasgow.

Credir bod yr awyren yn cludo tua 100 o bobl o wersylloedd yn Syria.

Fe fydd nifer o awyrennau eraill yn cludo ffoaduriaid yn cyrraedd meysydd awyr ar draws Prydain yn ystod y misoedd nesaf fel rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i ail-gartrefu 20,000 o ffoaduriaid dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor Theresa May eisoes wedi pwysleisio y bydd y ffoaduriaid sy’n cyrraedd y DU o Syria yn cael eu sgrinio’n drwyadl er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n peri bygythiad brawychol.

Daeth i’r amlwg bod un o ymosodwyr Paris wedi dod i Ewrop drwy Wlad Groeg gan gymryd arno ei fod yn ffoadur o Syria.

Fe fydd ffoaduriaid sy’n dod i’r DU yn cael fisa am bum mlynedd a fydd yn eu caniatáu i aros yn y wlad ac ar ôl hynny byddan nhw’n cael gwneud cais i aros yma.