Gosod blodau ar y traeth yn Sousse, Tiwnisia
Fe fydd elfen o’r cwestau i farwolaethau 30 o bobl o Brydain a gafodd eu lladd ar draeth yn Tiwnisia ym mis Mehefin yn edrych ar ba mor ymwybodol oedd Llywodraeth y DU o’r risgiau.
Fe fydd y cwestau’n edrych a wnaed digon i gynnig cyngor i’r twristiaid cyn teithio yno gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad a hefyd gan gwmnïau teithio.
Fe ddywedodd Clive Garner, ar ran y cwmni cyfreithiol Irwin Mitchell, sy’n cynrychioli rhai o’r teuluoedd a gafodd eu heffeithio, ei fod yn gobeithio y bydd y cwestau’n darparu “atebion i pam yn union y digwyddodd yr ymosodiad a pha amgylchiadau oedd wedi arwain ato.”
‘Codi pryderon mawr’
Roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent ymhlith 38 o bobl a gafodd eu saethu’n farw gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui, ar draeth yn Sousse ar 26 Mehefin.
Mae’r grŵp brawychol IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Fe ychwanegodd Clive Garner fod y “bygythiadau cynyddol o weithgarwch brawychol yn Tiwnisia cyn yr ymosodiad yn codi pryderon mawr am ddiffyg mesurau diogelwch a oedd yn eu lle.”
“Erbyn Mehefin 2015, roedd yna risg amlwg y gallai twristiaid oedd yn ymweld â Sousse fod yn darged i’r ymosodiad brawychol,” meddai Clive Garner.
“Yn amlwg, does dim y gellir ei wneud i ddod â’r rheiny a gollodd eu bywydau yn ôl,” ond mae’n gobeithio y bydd y cwestau’n cynnig atebion a gwersi i’w dysgu i “leihau’r risg o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”
Mae disgwyl i’r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar Ionawr 21, gyda’r cwestau llawn yn dechrau erbyn Tachwedd y flwyddyn nesaf.