Andrew RT Davies
Wrth gael ei holi yn y Senedd y prynhawn yma, mae Carwyn Jones wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn “ystyried cynlluniau” ar gyfer ad-drefnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru.
Yn ystod digwyddiad ‘Cyfarfod Carwyn’ yng ngogledd Cymru’r wythnos diwethaf, fe gydnabu’r Prif Weinidog “efallai nad yw un Bwrdd Iechyd i ogledd Cymru yn opsiwn delfrydol i symud ymlaen.”
Er hyn, wrth gael ei holi am ragor o fanylion yn y Senedd heddiw, fe ddywedodd Carwyn Jones ei bod hi’n “fater i’w harchwilio yn y dyfodol.”
Ond, nid yw Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn credu fod hynny’n “ddigon da” ac mae’n galw am fwy o eglurdeb am ddyfodol bwrdd iechyd y gogledd.
Dywedodd bod sylwadau’r Prif Weinidog yn awgrymu bod ’na deimlad o fewn Llywodraeth Cymru nad cael saith bwrdd iechyd yw’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan “fesurau arbennig”, a hynny am ddwy flynedd wedi i Lywodraeth Cymru gynnal ymchwiliadau i wasanaethau’r Bwrdd.
Codwyd amheuon am arweinyddiaeth y Bwrdd, a’r pryder am ofal ar ward iechyd meddwl Tawel Fan, yn Ysbyty Glan Clwyd.
‘Angen mwy o eglurdeb’
Fe ddywedodd Andrew RT Davies fod sylwadau’r Prif Weinidog yn mynd i “ychwanegu at bryderon trigolion gogledd Cymru.
“Mae’r cyhoedd angen mwy o eglurdeb dros gynlluniau Llafur, oherwydd fe allai newid y ffordd y mae’r gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn y rhanbarth yn sylweddol,” meddai.
“Dyw hi ddim yn ddigon da fod Carwyn yn cyfeirio hyn fel mater i edrych arno yn y dyfodol,” ychwanegodd gan ddweud y dylai’r Blaid Lafur gyflwyno ei chynlluniau cyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Cyflog i gyn-brif weithredwr
Yn y Senedd heddiw fe glywodd Aelodau Cynulliad bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i dalu cyflog o £200,000 i’w cyn-brif weithredwr, ag yntau ar secondiad ac yn gweithio yn Lloegr.
Ym mis Hydref eleni, fe ymddiswyddodd yr Athro Trevor Purt fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae bellach wedi derbyn swydd ym maes iechyd yn Lloegr.
Ond fe roddodd rhai o uwch swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gan gynnwys Simon Dean, dystiolaeth yn ystod y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus heddiw, gan ddweud fod y Bwrdd yn dal i’w gyflogi am mai dyna’r opsiwn “mwyaf effeithlon i’r trethdalwyr.”
Fe ddywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gogledd nad yw’r “saga yn helpu unrhyw un.”