Awyren Tornado'r Awyrlu
Mae awyrennau rhyfel yr Awyrlu wedi cynnal ymosodiad ar grŵp o fwy frawychwyr IS a oedd yn ymosod ar luoedd Cwrdaidd yng ngogledd Irac, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe lwyddodd awyren Tornado’r Awyrlu i anelu bom at grŵp o fwy na 30 o frawychwyr IS ger Sinjar.

Roedd yr ymosodiad, a gafodd ei gynnal ddydd Llun, yn rhoi cefnogaeth i luoedd Cwrdaidd yn rhanbarth Mosul.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod wedi derbyn adroddiadau gan luoedd Cwrdaidd bod yr ymosodiad wedi bod yn “hynod effeithiol”.

Roedd bom o awyren Tornado arall wedi dinistrio safle mortar IS yn ne orllewin Sinjar.