Safle'r trac rasio ym Mlaenau Gwent
Mae prosiect Cylchffordd Cymru i greu trac rasio uchelgeisiol yng nghymoedd y de wedi pasio’r prawf olaf yn ei broses gynllunio.

Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am fenter Cylchffordd Cymru, sydd werth £315 miliwn, wedi dweud y gall y gwaith ddechrau ym Mlaenau Gwent cyn pen diwedd y flwyddyn.

Fe ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, at y cwmni yn rhoi gwybod iddyn nhw am yr hawl swyddogol i ddadgofrestru’r tir comin fel rhan o’r datblygiad.

830 erw o dir comin

Yn ddibynnol ar amodau, fe fydd 830 erw o dir comin yn Nhrefil Las a Thwyn Bryn-March, Glyn Ebwy yn cael ei ddadgofrestru ar gyfer datblygu’r trac rasio.

Mae’r cwmni’n nodi y byddan nhw’n datblygu trac rasio modur “o’r radd flaenaf” ac yn datblygu parc technolegol ym Mlaenau Gwent hefyd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni y gallai’r prosiect greu “miloedd o swyddi” a denu ymwelwyr ac adfywiad i Blaenau Gwent a de Cymru.