Banc Lloegr
Roedd chwyddiant wedi aros yn negyddol fis diwethaf, yn ôl ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Fe arhosodd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn -0.1% ym mis Hydref wrth i brisiau bwyd a diod aros yn isel, a gostyngiad ym mhrisiau ynni a thanwydd.

Mae chwyddiant wedi bod yn agos i 0 ers naw mis – ei lefel isaf ers mis Mawrth 1960.

Mae chwyddiant is yn lleihau’r pwysau ar Fanc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog, gan fod CPI wedi bod yn sylweddol is na’r targed o 2% ers bron i flwyddyn.

Dywedodd yr ONS bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) – sef mesur ar wahân sy’n cynnwys costau tai – wedi gostwng i 0.7% ym mis Hydref o 0.8% ym mis Medi. Dyma’r lefel isaf o RPI ers Rhagfyr 2009.