Dywed Heddlu’r De bod corff wedi cael ei dynnu o’r dŵr ym Marina Abertawe bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle toc wedi 8 bore dydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod corff yn y dŵr.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.