Mae dynes 43 wedi cael ei harestio ar ôl gosod neges ar dudalen Facebook ei chwmni harddwch yn dweud nad oes croeso bellach i Fwslemiaid yn ei salon yn Swydd Rydychen.

Cafodd y neges ei phostio ar y dudalen yn dilyn y gyflafan ym Mharis nos Wener.

Dywedodd y neges: “Dydy Blinks of Bicester ddim yn derbyn archebion bellach gan unrhyw un o’r ffydd Islamaidd, p’un a oes gennych chi basbort y DU neu beidio.

“Sori, hen bryd rhoi fy ngwlad yn gyntaf.”

Cafodd y ddynes ei harestio gan heddlu Thames Valley yn dilyn nifer o gwynion gan y cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ddynes wedi cael ei harestio am fynd yn groes i’r drefn gyhoeddus drwy arddangos deunydd bygythiol neu sarhaus gyda’r bwriad o annog casineb hiliol, ac am gynhyrchu deunydd maleisus.