Dim ond trwy fandad gan y Cenhedloedd Unedig y bydd y Blaid Lafur yn cefnogi gweithredu’n filwrol yn Syria.

Dyna neges llefarydd datblygiad rhyngwladol y blaid, Diane Abbott wrth drafod y gyflafan ym Mharis nos Wener a laddodd 129 o bobol.

Dywedodd hi wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “O ran polisi Llafur mewn perthynas â Syria, fe wnaethon ni drafod hyn, fel mae’n digwydd, yng nghynhadledd y blaid ac mae gennym bolisi.

“Dim ond os bydd penderfyniad gan y Cenhedloedd Unedig y gallwn ni gytuno i fomio yn Syria a hefyd, a dyma fy mhryder penodol, os bydd cynllun i fynd i’r afael â ffoaduriaid a fydd yn deillio o weithredu milwrol pellach.”

Ychwanegodd fod y gyflafan ym Mharis yn cynyddu pwysigrwydd mynd i’r afael â’r sefyllfa yn Syria.

Ond dywedodd fod ei phlaid yn ceisio ateb diplomyddol.

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan lefarydd materion tramor y Blaid Lafur, Hilary Benn a ddywedodd fod rhaid canolbwyntio ar ddod o hyd i ateb gwleidyddol i’r argyfwng yn Syria cyn cynnal rhagor o gyrchoedd bomio.

Galwodd am “gynllun cynhwysfawr” i ddod â therfyn i fygythiad y Wladwriaeth Islamaidd.

“Ond mae arna i ofn na fyddwch chi’n trechu Isil/Daesh yn Syria drwy ollwng bomiau.”

Ar hyn o bryd, bwriad y Ceidwadwyr yw cynnal pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin pe baen nhw’n credu bod angen ehangu cyrchoedd y Llu Awyr oni bai bod consensws mai dyna’r ateb gorau i’r sefyllfa.