Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd nos Lun i drafod gwahardd digwyddiadau sy’n cael eu trefnu i recriwtio plant ar gyfer y lluoedd arfog.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad yn Nheml Heddwch y brifddinas am 7 o’r gloch nos Lun mae’r cyn-filwr Ben Griffin ar ran Cyn-filwyr Dros Heddwch, a David Petersen ar ran Cymdeithas y Cymod.

Roedd David Petersen yn allweddol yn y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd recriwtio mewn ysgolion yng Nghymru.

Cafodd y mater ei drafod mewn cyfarfod llawn o’r Cynulliad ar Fedi 30.

Mae’r digwyddiad wedi cael ei drefnu fel rhan o ail wythnos o weithredu yn erbyn recriwtio plant i’r lluoedd arfog.