Mae teyrngedau wedi cael eu gosod i feirw Paris y tu allan i lysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain.
Daeth trigolion Llundain – yn Saeson ac yn Ffrancwyr – ynghyd i osod torchau o flodau, canhwyllau a negeseuon y tu allan i’r adeilad yn Knightsbridge.
Mae’r llysgenhadaeth ynghau heddiw a baner Ffrainc wedi’i gostwng fel arwydd o barch i’r 129 fu farw yn dilyn y gyflafan nos Wener.
Mae ymwelwyr wedi bod yn heidio i weld y teyrngedau drwy gydol y dydd.
Yn Sgwâr Trafalgar, ymgasglodd miloedd o bobol nos Sadwrn ar gyfer gwylnos a heddiw, cafodd rhagor o deyrngedau eu gosod yno.
Roedd eraill yn mynegi eu rhwystredigaeth fod ymosodiad arall wedi digwydd ym mhrifddinas Paris lai na blwyddyn ar ôl yr ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo.