Bataclan ym Mharis (Llun: PA)
Mae nifer o ddryllau Kalashnikov wedi cael eu darganfod mewn car Seat sy’n cael ei gysylltu â’r gyflafan ym Mharis nos Wener.

Cafwyd hyd i’r car yn ardal Montreuil yn nwyrain Paris ddydd Sul, ac mae lle i gredu bellach bod rhai o’r brawychwyr wedi llwyddo i ffoi yn dilyn yr ymosodiadau ar draws y ddinas.

Mae lle i gredu bod y car a gafodd ei ddarganfod wedi cael ei ddefnyddio gan y brawychwyr a ymosododd ar fwytai a bariau.

Mae’n bosib y gallai’r car fod wedi cael ei adael cyn i gar arall gludo’r brawychwyr i Wlad Belg.

Cafwyd hyd i gar Volkswagen Polo ger neuadd y Bataclan, lle cafodd bron i 90 o bobol eu lladd, a’r gred yw fod y car wedi’i logi gan Ffrancwr sy’n byw yng Ngwlad Belg.