Theresa May (Llun: PA)
Fe fydd ffoaduriaid o Syria sy’n cyrraedd gwledydd Prydain ddydd Mawrth wedi cael eu sgrinio cyn glanio, meddai’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May.

Dywedodd fod mesurau yn eu lle i wirio pwy yw’r ffoaduriaid sy’n dod i wledydd Prydain i ffoi rhag y Wladwriaeth Islamaidd.

Mae lle i gredu bod o leiaf un o’r brawychwyr a achosodd gyflafan Paris wedi teithio trwy Wlad Groeg o Syria.

Bydd yr awyren gyntaf yn glanio ym maes awyr Glasgow wrth i Lywodraeth Prydain groesawu 20,000 o ffoaduriaid.

Dywedodd Theresa May wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Mae gennym brosesau yn eu lle. Mae dwy lefel i’r sgrinio sy’n digwydd.

“Yn y lle cyntaf, rydym yn croesawu pobol yn uniongyrchol o’r gwersylloedd. Rydym yn cydweithio ag UNHCR – mae UNHCR yn cymryd biometreg, yn edrych ar ddogfennau, yn cyfweld â phobol, yn gwneud eu prosesau eu hunain o sgrinio yn erbyn materion megis troseddau rhyfel a thorcyfraith difrifol.

“Yna mae gwiriad pellach sy’n digwydd unwaith mae pobol yn cael eu trosglwyddo i’r DU. Yna mae’r Swyddfa Gartref yn cynnal gwiriadau pellach, a chaiff rhagor o fiometreg ei gymryd.”

Amddiffynnodd Theresa May allu’r awdurdodau i gadw trefn ar drigolion Prydain sy’n dychwelyd o Syria yn wyneb radicaleiddio posib.

“Mae hi’n gywir bod ychydig dros 700 wedi mynd i Syria. Mae’r rhai sy’n dychwelyd yn cael eu gwirio fesul achos i weld os oes angen cymryd camau.

“Wrth gwrs, mae’n bosib fod rhai achosion lle mae modd erlyn pobol sy’n dychwelyd o Syria.”