Chris Coleman (Llun: Jamie Thomas)
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman yn awyddus i herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar cyn cystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc.
Mae’n bosib y gallai’r ddwy wlad fod yn yr un grŵp pan gaiff enwau’r gwledydd eu tynnu o’r het ar Ragfyr 12.
Ond fe ddywedodd Coleman y byddai’n well ganddo osgoi herio Lloegr yn ystod y gystadleuaeth pe bai modd.
“Ry’n ni’n gwybod y byddwn ni’n herio un o’r timau mwyaf ac mae Lloegr yn un o’r timau mwyaf hynny.
“Hon yw ein prif gystadleuaeth gyntaf ers sbel ac mae’n bosib y gallen ni chwarae yn erbyn Lloegr mewn gêm gyfeillgar rywle ar hyd y daith.
“Bydden ni wrth ein bodd yn cael gwneud hynny oherwydd mae pawb am chwarae yn erbyn Lloegr yn yr un modd ag y mae pawb eisiau chwarae yn erbyn y timau mwyaf fel yr Almaen a Sbaen.”
Dywedodd Coleman y byddai gornest rhwng Cymru a Lloegr yn ystod Ewro 2016 yn denu cryn sylw y tu hwnt i ddigwyddiadau’r maes chwarae.
“Yn y gystadleuaeth ei hun, byddai’n cael ei gweld fel Brwydr Prydain a byddai cryn dipyn o bethau’n mynd gyda hynny a allai tynnu ein sylw.
“Byddwn ni’n chwarae tair o gemau, a dydyn ni ddim am i’r cyfan gylchdroi o amgylch un ohonyn nhw.”