David Cameron
Mae’r Prif Weinidog wedi cael ei gyhuddo o dorri’r cod gweinidogol ar ôl ysgrifennu at ei gyngor lleol yn beirniadu toriadau i wasanaethau a chynnig cymorth ymgynghorwyr Downing Street.

Fe wnaeth David Cameron, Aelod Seneddol dros Witney,  ysgrifennu at Ian Hudspeth, arweinydd Cyngor Swydd Rhydychen, gan fynegi ei “siom” dros y ffordd roedd y cyngor yn cyflwyno toriadau i arbed arian.

Mae Llafur wedi mynnu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymchwilio i weld os  yw’r Prif Weinidog wedi torri’r rheolau drwy gynnig staff Downing Street i helpu ei etholaeth.

Rhan o’r llythyr

“Roeddwn yn siomedig gyda’r rhestr hir o awgrymiadau yn y nodyn briffio i wneud toriadau sylweddol i wasanaethau rheng flaen – o ganolfannau dydd i’r henoed i lyfrgelloedd i amgueddfeydd,” meddai David Cameron yn ei lythyr.

“Byddem wedi gobeithio bod Swydd Rydychen yn dilyn arfer gorau cynghorau Ceidwadwyr ledled y wlad o wneud arbedion yn y swyddfa a diogelu’r rheng flaen.

“Yn y cyd-destun hwnnw, byddem yn falch o ddechrau sgwrs bellach ag unigolion yn Uned Polisi Rhif 10 a chithau.”

Yn dilyn hyn, mae llefarydd Llafur, Jonathan Ashworth, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Heywood yn gofyn iddo ystyried os yw’r Prif Weinidog wedi torri’r cod gweinidogol.

 ‘Cyfuno ei rôl fe gweinidog â’i rôl fel AS’

Dywedodd Jonathan Ashworth wrth raglen Today BBC Radio 4: “Yr hyn dwi’n bryderus amdano yw bod y Prif Weinidog i weld yn cyfuno ei rôl weinidogol â’i rôl fel aelod seneddol dros Witney.

“Dwi’n amau ei fod yn gwahodd arweinydd Cyngor Dinas Caerlŷr, lle dwi’n AS, neu arweinydd Cyngor Dinas Manceinion i uned polisi Rhif 10 i drafod ffyrdd o ddelio â thoriadau.

“Dwi’n teimlo bod y cod wedi cael ei dorri a dwi’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymchwilio.”