Senedd Gwlad Groeg
Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Gwlad Groeg wedi dod i stop heddiw wrth i weithwyr gynnal y streic gyffredinol cyntaf ers i lywodraeth y wlad ddod i rym ym mis Ionawr.

Mae systemau trafnidiaeth yn cael eu heffeithio’n ddifrifol, gyda llwybrau metro Athen a llongau fferi ar stop a chyfyngiadau ar lwybrau bysiau.

Mae’r streic hefyd yn golygu bod amgueddfeydd, ysgolion a fferyllfeydd ar gau tra bod ysbytai yn gweithredu gyda staff cyfyngedig.

Mae mwy na dwsin deithiau awyrennau domestig wedi eu canslo, tra bod newyddiadurwyr hefyd ar streic gan dynnu bwletinau newyddion oddi ar yr awyr ac eithrio i roi gwybod am y streic.

Mae’r gweithwyr yn protestio yn erbyn mesurau llymder a osodwyd ar Wlad Groeg gan y Gymuned Ewropeaidd yn gyfnewid am 86 biliwn ewro dros dair blynedd i achub yr economi.