Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi fod perfformiad da dros hanner cynta’r flwyddyn wedi ei alluogi i gyflwyno gwerth £123 miliwn o fuddsoddiad yn y chwe mis hyd at fis Medi 2015.

Daw’r canlyniadau diweddaraf wedi i’r cwmni gyflawni ei berfformiad cyffredinol gorau’r llynedd ers cael ei sefydlu fel cwmni nid-er-elw – heb unrhyw gyfranddalwyr – yn 2001.

Gwnaeth Dŵr Cymru elw £25 miliwn yn chwe mis cynta’r flwyddyn, gyda’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi.

Dywedodd Dŵr Cymru, sy’n darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth i dros dair miliwn o bobl ar draws Cymru, Swydd Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy, fod ganddo gynlluniau i fuddsoddi  £184 miliwn yn rhagor rhwng mis Hydref 2015 ac Ebrill 2016.

‘Buddsoddiad sylweddol’

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: “Rydym wedi parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein gwasanaethau dros y misoedd diwethaf.

“Gyda’n gweledigaeth i ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid, ein hunig ffocws yw gwneud penderfyniadau sydd bob amser o fudd i gwsmeriaid a sicrhau gwerth am arian i gwsmeriaid – nawr ac am flynyddoedd i ddod.

“Mae ein buddsoddiad diweddaraf yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol er mwyn cael effaith parhaol go iawn ar y cymunedau dyn ni’n gwasanaethu.”