Bu’n rhaid i Michael Gove, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, adael yr uwchgynhadledd gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinwyr gwledydd eraill y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Iau 3 Mehefin), a hynny ar ôl iddo gael ei hysbysu y gallai fod wedi dod i gysylltiad â rhywun oedd â’r coronafeirws ar daith i Bortiwgal.
Roedd Michael Gove wedi mynd i Porto gyda’i fab i wylio rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Chelsea a Manchester City.
Cafodd wybod drwy ap y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gallai fod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun oedd â’r feirws.
Adroddodd y Daily Mail bod y cysylltiad yn debygol o fod wedi digwydd ar yr awyren adref o Porto.
Cadarnhaodd Swyddfa’r Cabinet fod Michael Gove wedi cael ei hysbysu gan yr ap.
Roedd Michael Gove i fod yn y cyfarfod â Phrif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ynghyd â Boris Johnson, i drafod adferiad o’r coronafeirws.
Yn hytrach na hunanynysu am 10 diwrnod, bydd Michael Gove yn gallu cymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer gweithleoedd, gan gynnwys Rhif 10, lle bydd yn cael ei brofi bob dydd am wythnos yn lle.