Mae undebau amaeth yn rhybuddio fod y diwydiant llaeth yn wynebu blwyddyn eithriadol o heriol yn sgil cynnydd mewn costau cynhyrchu llaeth a phrisiau llaeth amrywiol
Daw hyn yn dilyn dadansoddiad newydd gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) sy’n amlygu sut fod y gwahaniaeth pris rhwng llaeth a phorthiant yn debyg i lefelau sydd wedi arwain at gynhyrchu llai o laeth yn y gorffennol.
Cydymffurfio â safonau
“Mae cydymffurfio ag amrywiaeth enfawr o safonau ar feddyliau cynhyrchwyr llaeth yn gyson, er mwyn bodloni gofynion ac ennill ymddiriedaeth defnyddwyr yn y cynnyrch llaeth anhygoel o ddiogel y gellir ymddiried ynddo yn y Deyrnas Unedig,” meddai Abi Reader, Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru.
“Er bod y safonau hynny’n bwysig iawn i’n diwydiant, mae’n costio, a bydd y cynhyrchwyr hynny sydd â phrisiau llaeth is na’r cyfartaledd yn cael eu heffeithio waethaf.
“Mater cyfoes yma yng Nghymru yw costau ychwanegol bodloni Rheoliadau Dŵr a gafodd eu cyflwyno yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, a’r cynnydd serth mewn costau deunydd adeiladu ar draws y diwydiant ar ôl Covid, heb sôn am brisiau mewnbwn porthiant a gwrtaith.”
“Anodd ymdopi”
“Rydym wedi tynnu sylw o’r blaen at y ‘haves and have nots‘ o ran contractau llaeth,” meddai Michael Oakes, Cadeiydd Bwrdd Llaeth NFU.
“Bydd hyd yn oed y rhai sydd â chontractau sy’n perfformio orau yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r biliau cynyddol.
“I’r rhai sydd ar y contractau lleiaf ffafriol, rydym yn gwybod ei fod am olygu y gallai llawer ystyried cynhyrchu llai, neu adael y diwydiant.
“Efallai fod prisiau llaeth bellach yn gwella ychydig, ond bydd y rhai ar gontractau penodol wedi bod yn dioddef colledion ers cyfnod nawr – sy’n anghynaladwy.”
“O’r fuwch i’r defnyddiwr”
Yr un yw’r rhybuddion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, gyda Chadeirydd Pwyllgor Llaeth NFU yr Alban yn dweud ei fod yn gwybod bod nifer o ffermwyr yno, a thu hwnt, yn cael llai o arian am eu llaeth na’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig.
“Mae data’r AHDB yn glir; mae cyflenwad llaeth yn debygol o ddioddef os nad yw’r gyfradd cost-i-incwm yn cael ei hadfer,” meddai Gary Mitchell.
“Ers gormod o amser, mae gofyn i ffermwyr llaeth yn y Deyrnas Unedig gynhyrchu cynnyrch o safon am bris anghynaladwy.
“Rhaid i’r gadwyn gyflenwi gyfan, o’r fuwch i’r defnyddiwr, gydnabod difrifoldeb y sefyllfa hon.”
“Yma yng Ngogledd Iwerddon rydym yn wynebu’r her o gostau mewnbwn amrywiol sy’n ymddangos yn ddi-baid, ac sy’n effeithio ar broffidioldeb llawer o’n ffermydd llaeth,” ychwanega Cadeirydd Llaeth Undeb Ffermwyr Ulster, Mervyn Gordon.