Mae cynlluniau yn cael eu datblygu ar gyfer ymestyn y gefnogaeth arbenigol fydd ar gael i drochi plant yn y Gymraeg yng Ngwynedd.

Byddai’r drefn newydd yn golygu buddsoddi £1.1 miliwn mewn adnoddau newydd yn Nhywyn a Bangor, yn ogystal â gwella’r adnoddau ym Mhorthmadog.

Gan adeiladu ar y seiliau sydd mewn lle eisoes ar gyfer trochi plant yn yr iaith, byddai’r gyfundrefn newydd yn cynnig addysg drochi o’r radd flaenaf i ddysgwyr.

Pe bai’r cynnig yn cael ei basio gan Gabinet Cyngor Gwynedd, byddai’n golygu meithrin sgiliau disgyblion yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i lwyddo a ffynnu mewn ysgolion gan ddod yn siaradwyr hyfedr dwyieithog.

Byddai’r gyfundrefn drochi ar ei newydd wedd yn:

  • Hyrwyddo cyflawniad a lles newydd-ddyfodiaid i Gwynedd i ddysgu’r Gymraeg
  • Cefnogi dysgwyr sydd angen hwb ychwanegol i wella eu hyder a’u sgiliau yn yr ysgol
  • Ymestyn y ddarpariaeth drochi i fwy o ddysgwyr
  • Arfogi a chefnogi gweithlu ysgolion Gwynedd i weithredu egwyddorion addysg drochi yn y Cyfnod Sylfaen.
  • Darparu arweiniad, cefnogaeth, ac adnoddau i weithlu ysgolion y sir i’w galluogi i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd pellach
  • Cynorthwyo rheini a gofalwyr i ddeall gwerth addysg Gymraeg, a’u cynorthwyo i gefnogi eu plant.

Bydd yr adroddiad ar y cynllun yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor ddydd Iau nesaf (10 Mehefin), cyn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd.

“Arwain y ffordd”

“Mae’r Cyngor wedi arwain y ffordd o safbwynt datblygu cyfundrefn addysg Gymraeg a chefnogi pob disgybl sy’n symud i’r ardal i elwa’n llawn o’r ystod o gyfleoedd diwylliannol ac economaidd a ddaw yn sgil bod yn ddwyieithog,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd.

“Ein bwriad ydi adeiladau ar y gwaith arbennig yma wrth ddatblygu cyfundrefn drochi gyfoes fydd yn rhoi anghenion y dysgwyr yn ganolog i’n darpariaeth ac yn sicrhau fod ein trefn yn addas am y blynyddoedd i ddod.

“Rwy’n hyderus fod gennym gynlluniau cyffrous fydd yn sicrhau profiadau a chefnogaeth o ansawdd gan feithrin sgiliau yn y Gymraeg a galluogi’r disgyblion i lwyddo a ffynnu yn ein hysgolion gan ddod yn siaradwyr dwyieithog hyderus.

“Byddwn yn argymell buddsoddi dros £1 miliwn mewn cyfleusterau modern wedi eu lleoli ym Mangor a Thywyn, sef dwy ardal sy’n allweddol i’r weledigaeth o sicrhau ein bod yn cryfhau sefyllfa’r iaith Gymraeg ym mhob cwr o’r sir.

“Fel rhan o’r cynlluniau, byddwn hefyd yn gwella’r ddarpariaeth mewn lleoliadau eraill ar draws y sir gan sicrhau cyfleoedd i fwy o ddisgyblion elwa o’r gefnogaeth arbennig yma.”

Pe bai’r cynlluniau’n cael eu caniatáu, bydd £1.1 miliwn o grant cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau amgylchedd ddysgu o’r radd flaenaf, a chyfleusterau modern.

Mae’n fwriad i’r drefn a’r cyfleusterau newydd fod yn eu lle erbyn Medi 2022.