Fe fydd naw o garchardai newydd yn cael eu hadeiladu o dan gynlluniau i gau carchardai o Oes Fictoria a gwerthu’r tir ar gyfer adeiladu tai, cyhoeddodd y Llywodraeth.

Fe fydd y cynlluniau, sy’n rhan o adolygiad gwariant y Canghellor George Osborne, yn gwneud y gwasanaeth carchardai yn “addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,” meddai’r Trysorlys.

Bydd tua 10,000 o garcharorion yn cael eu trosglwyddo i garchardai newydd, gan arbed tua £80 miliwn yn flwyddyn.

Mae disgwyl i bump o garchardai newydd gael eu hagor erbyn 2020 yn ogystal â’r carchar newydd sy’n cael ei agor yn Wrecsam.

Fe allai mwy na 3,000 o gartrefi newydd gael eu hadeiladu ar safleoedd yr hen garchardai mewn dinasoedd, gyda charchar Reading, a adeiladwyd yn 1844 ac a gaeodd yn 2013, ymhlith y cyntaf i gael eu gwerthu.