Aung San Suu Kyi
Mae Aung San Suu Kyi, arweinydd Cynghrair Cenedlaethol am Ddemocratiaeth (NLD) wedi awgrymu heddiw ei bod hi’n hyderus y bydd ei phlaid yn ennill y mwyafrif mewn etholiad hanesyddol i Byrma.

Nid yw’r bleidlais derfynol wedi’i chyfrif eto, ond fe ddywedodd Aung San Suu Kyi fod “gennym i gyd syniad o’r canlyniadau.”

Mae’r blaid yn amcangyfrif eu bod wedi ennill mwy na 70% o’r seddi yn yr etholiad ddydd Sul, er nad yw’r comisiwn etholiadau wedi cadarnhau hynny’n swyddogol eto.

“Mae dal braidd yn gynnar i longyfarch ein hymgeiswyr a fydd yn enillwyr,” ychwanegodd yr arweinydd.

Mae’r ras wedi bod rhwng y ddwy brif blaid sef yr NLD a’r blaid sy’n llywodraethu ar hyn o bryd, sef plaid USDP (Union Solidarity Development Party).

Mae disgwyl i gomisiwn yr etholiad gyhoeddi’r canlyniadau terfynol cyn diwedd y dydd.

Penodi arlywydd

Mae cyfansoddiad Llywodraeth Byrma yn neilltuo 25% o seddi’r llywodraeth i aelodau milwrol.

Ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau terfynol, fe fydd yr aelodau seneddol newydd a’r aelodau milwrol yn cynnig tri ymgeisydd, gan ethol un fel arlywydd, a’r ddau arall yn islywyddion.

Byddai angen buddugoliaeth ysgubol ar yr NLD ac Aung San Suu Kyi i sicrhau’r arlywyddiaeth, oherwydd y seddau milwrol sydd ar gadw.

Wrth i gannoedd o gefnogwyr ymgasglu tu allan i bencadlys yr NLD yn Rangoon roedden nhw’n gweiddi am Aung San Suu Kyi gan ddweud:

“Hi yw arweinydd y bobol, ac mae’r byd i gyd yn gwybod amdani.

“Sgrifennwch eich hanes yn eich calonnau ar gyfer ein dyfodol ni, fel y bydd unbennaeth yn dod i ben.”