Mae George Osborne wedi rhybuddio arweinwyr cynghorau na ddylen nhw fod yn defnyddio arian trethdalwyr i dalu am yswiriant iechyd preifat, wrth iddo roi addewid i ffrwyno cyflogau “annerbyniol” yn y sector cyhoeddus.

Mae’r Canghellor wedi awgrymu y bydd yn cyflwyno canllawiau newydd i gyflogwyr y sector cyhoeddus ar ôl iddo ddweud bod ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod lle i wneud arbedion pellach.

Canfu dadansoddiad gan y Daily Mail a Chynghrair y Trethdalwyr o tua 6,000 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn 2013/14 , fod 537 o benaethiaid awdurdodau lleol yn ennill mwy na’r Prif Weinidog.