E-sigaret
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu bwriad Llywodraeth Cymru i wahardd e-sigarennau o fannau cyhoeddus caeedig.

Mewn datganiad ar ei wefan, fe ddywedodd Andrew R T Davies y byddai’r gwaharddiad yn “wallgofrwydd” ac yn “tanseilio’r ymdrech i ostwng y nifer sy’n ysmygu.”

Fe ddywedodd fod e-sigarennau yn fodd i helpu pobol i roi’r gorau i ysmygu cynnyrch tybaco.

“Dylen ni fod yn helpu pobol i roi’r gorau i ysmygu, yn lle gosod rhwystrau ar eu llwybrau,” meddai.

‘Llai niweidiol’

Ar ei wefan, mae’n cyfeirio at adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Lloegr sy’n dangos fod e-sigarennau 95% yn llai niweidiol na chynnyrch tybaco.

“Rhaid ystyried fod 1 ymhob 5 o oedolion yng Nghymru (a nifer o blant) yn gaeth i gynnyrch tybaco. Rhaid gofyn, pwy yn ei iawn bwyll fyddai am weld deddfwriaeth i wahardd rhywbeth sy’n amlwg yn helpu nifer o bobol i drechu’r arfer ofnadwy a pheryglus hyn?”

Fe ddywedodd fod sefydliadau fel Ash Wales, Cancer Research a Tenovus yn rhannu ei bryderon, er eu bod yn cydnabod fod angen mwy o ymchwil i’w heffaith hir dymor.

‘Cenhedlaeth ddi-fwg’

Fe bwysleisiodd Llywodraeth Cymru, serch hynny, nad yw’r mesur yn cynnig gwaharddiad ar werthu e-sigarennau. Nid yw chwaith yn atal eu defnydd i helpu pobol i roi’r gorau i ysmygu.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y “byddai’n cyfyngu ar y defnydd o e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan ddod â nhw i’r un lefel â sigarennau confensiynol.”

“Bydd ein cynnig yn sicrhau bod ysmygu yn parhau i fod ar lefel is o normalrwydd yn unol â’r hyn ddigwyddodd wedi’r gwaharddiad, yn enwedig i genhedlaeth sy’n tyfu fyny mewn cymdeithas ddi-fwg i raddau helaeth.”

Fe ychwanegodd y llefarydd fod y cynlluniau yn seiliedig ar dystiolaeth “o bob rhan o’r byd.”

“Mae’r BMA , gweithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus ac eraill yn cefnogi ein cynigion, tra bod Sefydliad Iechyd y Byd a chyrff rhyngwladol eraill wedi galw am fwy o reoleiddio e-sigarennau.”

Mae 40 o wledydd eraill eisoes wedi cymryd camau tebyg.