Mae George Osborne wedi datgelu bod pedair o adrannau’r Llywodraeth wedi cytuno i dorri eu gwariant o 30% dros y pedair blynedd nesaf.
Mae’r adran drafnidiaeth, llywodraeth leol, amgylchedd a’r Trysorlys wedi dod i gytundeb ynglŷn â’r toriadau cyn i’r Canghellor gyhoeddi ei adolygiad gwariant yn ddiweddarach yn y mis.
O dan y cytundeb, fe fydd disgwyl i’r adrannau wneud arbedion o 8% ar gyfartaledd bob blwyddyn dros y pedair blynedd nesaf.
Fe fydd y toriadau’n cael eu gwneud drwy gyfuniad o arbedion effeithlonrwydd a rhoi’r gorau i brosiectau sydd ddim yn talu eu ffordd.
Mewn araith yn Llundain heddiw, bu’r Canghellor yn rhybuddio gweinidogion y Cabinet bod yn rhaid iddyn nhw weithredu’r toriadau er mwyn sicrhau dyfodol economaidd Prydain.
Dywedod bod “ein diogelwch economaidd mewn perygl” a “does neb yn gwybod beth fydd yr argyfwng economaidd byd-eang nesaf neu pryd fydd yn dod.
“Os nad ydan ni’n rheoli ein gwariant, rydym yn wynebu’r risg o gyfraddau morgais uwch a threthi uwch – a cholli hyder yn ein heconomi.”
‘Ffrae’
Mae George Osborne wedi gwadu honiadau bod ffrae yn corddi rhyngddo ef a’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Iain Duncan Smith yn gwrthod cynlluniau i wneud y Credyd Cynhwysol newydd yn llai hael.
Mae’n debyg bod y Trysorlys yn ystyried cynyddu’r cosbau y byddai ceiswyr yn gorfod eu talu os ydyn nhw’n gwneud gwaith ychwanegol er mwyn gwneud arbedion o rhwng £1.5biliwn a £2 biliwn.
Mae rhai adroddiadau’n awgrymu bod Iain Duncan Smith ar fin ymddiswyddo ynglŷn â’r mater.