Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio bellach wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn fflat yn Swydd Dorset.
Cafodd dyn a dynes eu harestio wedi i’r corff gael ei ddarganfod mewn fflat yn Weymouth fore Sul.
Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio erbyn hyn.
Daeth yr heddlu o hyd i’r corff am oddeutu 8 o’r gloch, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth.
Mae’r crwner wedi cael gwybod.