Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi beirniadu pennaeth y lluoedd arfog, y Cadfridog Syr Nicholas Houghton a’i gyhuddo o ymyrryd mewn ffrae wleidyddol.

Roedd Houghton wedi mynegi pryder am safbwyntiau Corbyn am gytundeb niwclear Trident, ond mae Corbyn wedi’i gyhuddo o dorri egwyddor gyfansoddiadol nad oes gan y lluoedd arfog yr hawl i ymyrryd mewn ffrae wleidyddol.

Dywedodd y byddai’n galw ar yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon i sicrhau parhad “niwtraliaeth” y lluoedd arfog.

Dyweodd y Cadfridog Syr Nicholas Houghton y byddai’n “poeni” pe bai Corbyn yn dod yn brif weinidog oherwydd ei ymrwymiad i beidio defnyddio arfau niwclear.

Ar raglen Andrew Marr y BBC, ychwanegodd fod safbwynt Corbyn yn tanseilio hygrededd yr arfau ataliol.

Mewn datganiad, dywedodd Jeremy Corbyn: “Mater o bryder difrifol yw fod pennaeth y staff amddiffyn wedi ymyrryd yn uniongyrchol heddiw mewn materion yn ymwneud â ffrae wleidyddol.

“Mae’n hanfodol mewn democratiaeth fod y lluoedd arfog yn aros yn wleidyddol niwtral bob amser.

“Drwy dangos ochr mewn dadleuon gwleidyddol presennol, mae Syr Nicholas Houghton yn amlwg wedi mynd yn groes i’r egwyddor gyfansoddiadol honno.”

Cyn datganiad Corbyn, roedd llefarydd amddiffyn y Blaid Lafur, Maria Eagle wedi dweud bod gan Syr Nicholas Houghton yr hawl i leisio barn.

Ychwanegodd Corbyn: “Byddwn yn dweud yn dawel bach wrtho, gyda’r parch mwyaf, ein bod ni’n byw mewn democratiaeth lle caiff gwleidyddion eu hethol i’r Senedd er mwyn gwneud penderfyniadau gwleidyddol.

“Os oes ganddo bryderon, rwy’n credu y dylai eu trafod gyda fi. Dw i ddim yn credu ei fod yn briodol i swyddog sy’n gwasanaethu wneud sylwadau gwleidyddol na chymryd rhan mewn dadl wleidyddol.”