Mae teulu cyn-filwr sy’n dioddef o ddementia wedi apelio am wybodaeth wedi iddo golli ei fedalau yn ystod taith i Lundain ar gyfer gwasanaeth coffa.

Roedd Peter Bennett, fu’n gwasanaethu’r SAS, yn Llundain ddydd Iau ar gyfer agoriad swyddogol Cae Coffa Abaty Westminster.

Ond aeth adref wedi colli het a’i fedalau.

Ar wefan Facebook, dywedodd ei ferch Giulia Bennett: “Yn drist iawn, mae ganddo ddementia ac roedd e wedi colli popeth (ei got las a chwdyn siwt gwyrdd) pan aeth i Lundain ar gyfer y gwasanaeth coffa yn Abaty Westminster.

“Mae’n gofyn amdanyn nhw o hyd.”

Arhosodd Peter Bennett dros nos cyn gadael gorsaf King’s Cross am 6 o’r gloch nos Wener.