Mae dau ddyn wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i lanc 17 oed gael ei drywanu i farwolaeth yng ngogledd orllewin Llundain.
Mae llanc 16 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Kenton toc wedi 12.30 y bore ma.
Roedd y llanc 17 oed wedi’i drywanu yn ei frest, ac fe fu farw’n ddiweddarach.
Dydy e ddim wedi cael ei enwi, ond mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.
Mae’r llanc 16 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Mae’r ddau ddyn a gafodd eu harestio’n cael eu holi yn y ddalfa yn Llundain.