Mae’r cyn-filwr Simon Weston wedi beirniadu’r oedi cyn cyhoeddi Adroddiad Chilcot ar y rhyfel yn Irac.

Dywedodd Weston wrth raglen Sunday Politics y BBC fod yr oedi’n “sarhau’r cof am bob un fu farw” yn ystod y rhyfel.

“Fe fu ymchwiliad Chilcot yn un o’r penodau gwaethaf o ymyrraeth wleidyddol mewn unrhyw ymchwiliad.

“Mae’n sarhau’r cof am bob un fu farw, pob teulu a ddioddefodd oherwydd anafiadau ac oherwydd marwolaeth eu hanwyliaid yno.”

Mae disgwyl i’r adroddiad 2 miliwn o eiriau gael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.

Dechreuodd Chilcot lunio’r adroddiad yn 2009, ac mae Simon Weston wedi’i gyhuddo o “anallu moesol”.

Iechyd meddwl

Yn y cyfamser, mae Simon Weston wedi galw am gael mwy o gefnogaeth i filwyr a chyn-filwyr sy’n dioddef o salwch meddwl.

Dioddefodd Weston yntau o iselder wedi i 46% o’i gorff gael ei losgi yn dilyn ymosodiad ar long Sir Galahad yn ystod Rhyfel y Malfinas yn 1982.

“Mae a wnelo iechyd meddwl gryn dipyn â gwasanaethu.”

Dywedodd fod rhai yn troi at alcohol, tra bod eraill yn dioddef o drawma.

“Mae gan yr elusen wnes i ei sefydlu gyda Jim Davidson ychydig iawn o adnoddau.

“Mae angen seicolegwyr, seiciatryddion. Efallai bod angen therapi mewn grwpiau, gan fod bod yng nghwmni pobol ar yr adeg gywir yn eich helpu chi.

“Un o’r problemau mwyaf gawson ni oedd pan gafwyd gwared ar ysbytai iechyd meddwl. Roedden nhw gyda ni ac yna, fe wnaethon ni roi pobol yn y gymuned.

“I rai, dyna’r peth cywir i’w wneud ond i eraill, mae ysbyty’n cynnig amgylchfyd gwell.

“Ry’n ni’n clywed yn rhy aml am bobl fregus. Yr hyn mae’n ei olygu yw pobol nad ydyn nhw’n meddwl yn glir ac y mae angen cefnogaeth arnyn nhw.

“I fi’n bersonol, iselder a thrawma yw’r problemau mwyaf. Rwy’n ffodus ’mod i wedi dod drwyddyn nhw.

“Ni ddylid ystyried bod iselder yn wendid. Mae un bywyd ar chwâl yn un bywyd yn ormod. Ni ddylem esgeuluso pobol am fod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.”