Mae lle i gredu bod enillwyr medalau yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 ymhlith athletwyr o Rwsia oedd wedi osgoi cael eu gwahardd am gymryd cyffuriau flwyddyn ynghynt.

Mae awgrym bod nifer wedi osgoi cael eu gwahardd yn dilyn taliadau llwgr i benaethiaid athletau’r byd.

Dywed papur newydd y Sunday Times fod ganddyn nhw restr o wyth o athletwyr a ddylai fod wedi cael eu gwahardd yn 2011.

Mae’r papur yn awgrymu bod pennaeth yr IAAF ar y pryd, Lamine Diack a’r Dr Gabriel Dolle, un o’r swyddogion fu’n profi’r athletwyr, wedi derbyn taliadau llwgr.

Mae erlynwyr yn Ffrainc yn ymchwilio i’r honiadau.

Yr awgrym yw fod Diack wedi derbyn 1 miliwn Ewro yn 2011, a bod Dolle wedi derbyn 200,000 Ewro er mwyn celu gwir ganlyniadau profion cyffuriau.

Wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd llywydd presennol yr IAAF, yr Arglwydd Coe ei fod wedi “ffieiddio” o ganlyniad i’r honiadau.

Roedd Asiantaeth Gwrth-gyffuriau’r Byd eisoes yn ymchwilio i honiadau eraill a gafodd eu gwneud mewn rhaglen ddogfen yn yr Almaen yn 2014 fod athletwyr o Rwsia wedi methu profion cyffuriau cyn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

Mae disgwyl i ganlyniadau ymchwiliad gael eu cyhoeddi ddydd Llun.