Bu’n rhaid i deithwyr o ganolbarth i dde Lloegr ddioddef oriau o oedi ddoe wedi i aderyn hedfan fewn i drên ac achosi difrod i’r sgrin wynt.

Yn ôl cwmni London Midland roedd yr aderyn wedi difrodi sgrin wynt trên 15.46 o orsaf Euston yn Llundain i Crewe, yn Hanslope yn Buckinghamshire.

Er bod angen trwsio’r ffenest flaen nid oedd y gyrrwr wedi ei anafu.

Fe gafodd teithwyr ar drên hwyrach 19.34 wybod gan y gyrrwr bod trafferthion wedi bod y diwrnod hwnnw oherwydd “bird strike”.