Nigel Owens yw ‘Personoliaeth Chwaraeon y Ddegawd’ elusen Stonewall, a hynny lai nag wythnos ers iddo ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd.
Cafodd ei anrhydeddu yn seremoni wobrwyo flynyddol yr elusen sydd yn ymgyrchu dros hawliau pobl hoyw, lesbiaid, deurywiol a thrawsrywiol yn y V&A yn Llundain neithiwr.
Ymysg yr enillwyr eraill roedd y gwleidydd yr Arglwydd Alli, y newyddiadurwraig Liz MacKean, opera sebon Hollyoaks a phapur newydd The Guardian.
Roedd Clwb Pêl-droed Llewod Caerdydd hefyd ymysg y rheiny oedd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr chwaraeon y noson.
Esiampl clodwiw
Cafodd y noson ei chynnal gan yr actor adnabyddus Syr Ian McKellen, gyda chyflwynwyr y gwobrau yn cynnwys Charlie Condou, Jane Hill, Mary Portas, Doctor Ranj ac Evan Davis.
Derbyniodd Nigel Owens ei wobr ‘Person Chwaraeon y Ddegawd’ am fod yn “esiampl clodwiw amlwg yn ei faes” fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol sydd wedi bod yn agored am ei rywioldeb ers blynyddoedd.
Mae’r gŵr o Fynyddcerrig yn uchel ei barch yn y byd rygbi ac fe ddyfarnodd ei ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd cyntaf eleni, ac mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau ar raglenni megis Jonathan.
“Rydw i wir wedi synnu ond yn teimlo’n falch a gostyngedig iawn mod i wedi ennill person chwaraeon y ddegawd @stonewalluk,” trydarodd y dyfarnwr yn dilyn y seremoni.
Enillwyr a rhestrau byr y gwobrau:
Cyhoeddiad y Flwyddyn (wedi’i gyflwyno gan Jane Hill):
Guardian – enillydd
Pink News
The ‘i’
Metro
The Times
Gwleidydd y Ddegawd (wedi’i gyflwyno gan Charlie Condou):
Yr Arglwydd Alli – enillydd
John Bercow MP
Ruth Davidson MSP
Yr Arglwydd Cashman
Y Farwnes Featherstone
Ysgrifennwr y Ddegawd (wedi’i gyflwyno gan Evan Davis):
Sarah Waters – enillydd
Val McDermid
Stella Duffy
Damian Barr
Alan Hollinghurst
Newyddiadurwr y Ddegawd (wedi’i gyflwyno gan Dr. Ranj):
Liz MacKean – enillydd
Miriam Stoppard
Patrick Strudwick
Matthew Todd
Owen Jones
Darllediad y Ddegawd (wedi’i gyflwyno gan Mary Portas):
Hollyoaks – enillydd
Coronation Street
The World’s Worst Place to be Gay?
Britain’s Got Talent
Marrying Mum & Dad
Diddanwr y Ddegawd (wedi’i gyflwyno gan Kevin Jenkins):
Dan Gillespie Sells – enillydd
Alicya Eyo
Jane Hazlegrove
Sue Perkins
Antony Cotton
Person neu Dîm Chwaraeon y Ddegawd (wedi’i gyflwyno gan Lord Alli):
Nigel Owens – enillydd
Llewod Caerdydd
Stonewall FC
Anton Hysen
Martina Navratilova
Gwobr Trawsywiol y Cyfryngau (wedi’i gyflwyno gan Ruth Hunt):
Boy Meets Girl – enillydd
Orange Is The New Black
Brace
Transgender Kids gan Louis Theroux
Banana / Cucumber / Tofu