Stadiwm y Mileniwm - gobeithio denu digwyddiadau mawr
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi’r alwad ar i Lywodraeth Cymru benodi pennaeth trafnidiaeth i reoli gwasanaethau teithio pan fydd digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd.
Fe gododd y syniad wrth i un o bwyllgorau’r Cynulliad gynnal ymchwiliad i rai o’r problemau a gododd yn ystod gêmau Cwpan Rygbi’r Byd.
Roedd adroddiadau am gefnogwyr yn gorfod aros am bedair awr am drên ac mewn tagfeydd 40 milltir ar yr M4 adeg y gêm yn Stadiwm y Mileniwm rhwng Iwerddon a Chanada.
Mae datrys y problemau’n bwysig, meddai’r beirniaid, wrth i Gaerdydd geisio denu rhagor o ddigwyddiadau mawr – mae Rownd Derfynol Pencampwriaeth bêl-droed Ewrop eisoes ar y ffordd.
‘Osgoi siambls’
“Rwy’n adleisio’r galwadau am benodi arbenigwr trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru,” meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew R T Davies. “Rhywun i arolygu trefniadau a gweithio i osgoi’r siambls a welson ni yn ystod Cwpan y Byd.”
Yn ôl y llefarydd trafnidiaeth, Wiliam Graham, roedd hi’n bwysig dysgu’r gwersi os oedd Caerdydd am gyflawni’i photensial yn ganolfan ar gyfer digwyddiadau mawr.