Cliff Richard mewn cyngerdd yn 2009 (Jpmawet CCA3.0)
Fe ddaeth yn amlwg fod Syr Cliff Richard wedi cael ei holi unwaith eto ynglƈn â honiad ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar fachgen yn yr 1980au.

Fe ddatgelodd Heddlu De Swydd Efrog fod y canwr wedi mynd atyn nhw’n wirfoddol ac nad yw wedi cael ei arestio na’i gyhuddo o ddim. Yn ôl ei gyfreithwyr, roedd wedi cydweithredu’n llawn.

Mae llefarydd ar ran y diddanwr 75 oed wedi pwysleisio eto ei fod yn gwadu’r honiadau yn llwyr – pan wnaed y cyhuddiad gwreiddiol, roedd wedi dweud ei fod yn “wirion a chelwyddog” ac nad oedd wedi “ymosod ar neb erioed”.

Ehangu

Ynghynt eleni, roedd Prif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog, David Compton, wedi dweud mewn llythyr at Bwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin bod maint yr ymchwiliad wedi ehangu y tu hwnt i’r honiadau am yr un bachgen ifanc.

Fe gafodd y Pwyllgor eu beirniadu gan gyfreithwyr y canwr ar ôl gollwng manylion o’r llythyr i’r cyfryngau.

Roedd yna feirniadaeth adeg dechrau’r ymchwiliad hefyd pan gafodd camerâu teledu fynd gyda’r heddlu ar gyrch i gartref Syr Cliff.