Sian Williams
Cyn-gyflwynydd BBC Breakfast Sian Williams yw wyneb newydd rhaglen newyddion ddyddiol Channel 5 – 5 News at 5.

Bydd Sian Williams, sydd â rhieni o Gymru, yn ymuno â’r rhaglen yn y flwyddyn newydd.

Treuliodd fwy na deng mlynedd yn cyflwyno BBC Breakfast, ond gadawodd y rhaglen yn 2012.

Yn 2013, dywedodd ei bod yn gwneud MSc mewn seicoleg.

Mae Sian Williams hefyd wedi cyflwyno rhaglenni fel Crimewatch, Goodnight Britain a National Treasures Live.

Disgrifiodd Sian Williams ei swydd newydd fel “cyfle gwych a her gyffrous”.