Llun o glawr y nofel
Mae nofel hanesyddol wedi ei seilio ar fywydau go iawn teulu o Geredigion wedi cael ei henwi’n nofel y mis gan ganghennau siop lyfrau, Waterstones Cymru.
Cafodd ‘The Shadow of Nanteos’ gan Jane Blank ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa ym mis Hydref ac mae’n stori garu wedi ei seilio yn y ddeunawfed ganrif ar fywydau go iawn teulu’r Powell o dŷ Nanteos yng ngorllewin Cymru.
Cafodd y nofel ei lansio ddechrau’r mis yn nhŷ Nanteos ei hun – sydd bellach wedi ei droi yn westy pum-seren ar gyrion Aberystwyth.
Mae’r awdur, Jane Blank, yn byw yn Y Fenni. Mae ganddi wreiddiau yng Nghymru a Sheffield ac mae’n siaradwr Cymraeg.
O’i hunaniaeth ddeublyg, meddai: “Yn blentyn, mi roeddwn i’n cael fy nisgrifio fel y ‘cyfnither Saesneg’ gan rhai aelodau o’r teulu, er bod fy rhieni yn Gymry.
“Nid oedd fy Nhad yn medru’r Gymraeg, ond fe allai fy Mam, ond cafodd hi ei chynghori i beidio â siarad Cymraeg gyda’i merch. Ond, serch hynny, fe roddwyd i mi hunaniaeth Gymreig gref ac fe wnes i addewid fel plentyn i ddysgu Cymraeg.’
Mae Jane Blank bellach yn siaradwr Cymraeg rhugl ac am sicrhau mai Cymraeg yw iaith gyntaf ei mab hefyd.
Dyma’r ail nofel iddi ei chyhoeddi gyda’r Lolfa wedi cyhoeddi The Geometry of Love yn 2008.
Mae ‘The Shadow of Nanteos’ nawr wedi cael ei ddewis fel Llyfr y Mis ar gyfer mis Tachwedd gan ganghennau Waterstones Cymru yn ogystal â chyrraedd rhestr fer gwobr yr Historical Novel Society 2015.
Bydd Jane Blank yn cynnal sesiwn arwyddo yn Waterstones Abertawe ar 14 Tachwedd.