Mae 35 o artistiaid a bandiau o bob cwr o Gymru wedi llwyddo i ennill rhan o fwrsari cerddoriaeth gwerth cyfanswm o £50,000.

Rhoddwyd hyd at £2,000 yr un i 35 o artistiaid newydd neu addawol o Gymru i’w cynorthwyo i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, datblygu eu cerddoriaeth a chefnogi gweithgareddau fydd yn eu helpu i gyflawni eu potensial.

Ymysg yr artistiaid llwyddiannus mae’r artistiaid Cymraeg CASI, Aled Rheon, Ifan Dafydd, Anelog, Y Reu  a Candelas.

Cafwyd 160 o geisiadau i gronfa Lansio – sydd wedi cael ei chreu fel rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru – i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd yng Nghymru.

Cafwyd ceisiadau am arian i helpu i gefnogi eu gwaith – o brynu offer recordio a llogi ystafelloedd ymarfer i weithio gyda chynhyrchwyr talentog a recordio’n broffesiynol.

Llwyddiant

Mae un o’r ymgeiswyr llwyddiannus, Greta Isaac, o Fro Morgannwg, wedi cael sawl mis llwyddiannus, gan iddi gael sesiwn ar BBC Radio 2 a slot byw ar lwyfan BBC Introducing yng Ngŵyl Radio 2, Hyde Park Festival in a Day, yn sgil rhyddhau ei chân gyntaf.

Mae’r recordiadau ar gyfer ei EP nesaf yn barod eisoes, a bydd y Gronfa Lansio yn cynorthwyo â gwasanaethau hyrwyddo fel y gall adeiladu ar ei llwyddiant diweddar.

Mae’r gantores-gyfansoddwraig o Abertawe, Eleri Angharad, wedi teithio ar draws yr Unol Daleithiau mewn ymgais i ddod yn fwy profiadol wrth berfformio. Wedi recordio demos, a chwaraewyd ar BBC Radio Wales a BBC 6 Music, mae’n barod i recordio mewn stiwdio broffesiynol.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Gorwelion Bethan Elfyn: “Caiff 35 o grantiau Cronfa Lansio eu dyfarnu eleni, i helpu cerddorion a bandiau newydd yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd cynllun Gorwelion yn parhau i hyrwyddo a mentora cerddorion yng Nghymru mewn ffordd newydd, gyffrous, gyda’r Gronfa Lansio yn grymuso’r cerddorion hwythau i fod yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn gynhyrchiol, ac i wireddu eu breuddwydion.”

Mae’r artistiaid llwyddiannus yn cynnwys:

Afro Cluster, Caerdydd, ariannu fideo a hyrwyddo’r gân nesaf y byddan nhw’n ei rhyddhau

Aled Rheon, Caerdydd, hyrwyddwyr radio arbenigol ar gyfer y gân nesaf y bydd yn ei rhyddhau

Anelog, Caerdydd, amser yn y stiwdio, gan ddefnyddio stiwdio analog

Artefact, Caerdydd, amser yn y stiwdio ar gyfer y gân gyntaf y byddan nhw’n ei rhyddhau

Astroid Boys, Caerdydd, hyrwyddo’r gân nesaf y byddan nhw’n ei rhyddhau

Buck, Felinheli, hyrwyddo’r gân nesaf y byddan nhw’n ei rhyddhau

Candelas, Bala, amser yn y stiwdio a gwaith cysylltiadau cyhoeddus

CASI, Bangor, gwaith celf ar gyfer yr ymgyrch i’w EP nesaf

CaStLeS, Ceunant, Gwynedd, rhyddhau dau EP a gwaith cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer yr ymgyrch

Connah Evans, Ynys Môn, hyrwyddo’r daith nesaf a chynhyrchu fideo

Dan Bettridge, Ogwr, amser yn y stiwdio ar gyfer ei albwm cyntaf

David Ian Roberts, Caerdydd, amser yn y stiwdio

Delyth McLean, Merthyr Tudful, recordio, cynhyrchu a dosbarthu cân newydd a fideo

Dukes of Hafod, Llanelli, recordiadau meistr a chynhyrchu albwm cyntaf

Eleri Angharad, Abertawe, amser yn y stiwdio, recordiadau meistr, cynhyrchu a gwaith celf ar gyfer y gân gyntaf y bydd yn ei rhyddhau

Greta Isaac, Y Bont-faen, hyrwyddo’r gân nesaf y bydd yn ei rhyddhau

Hannah Grace, Pen-y-bont ar Ogwr, gwaith celf ar gyfer y gân nesaf y bydd yn ei rhyddhau

Harri Davies, Caerdydd, amser yn y stiwdio ar gyfer y gân gyntaf y bydd yn ei rhyddhau

Henry’s Funeral Shoe, Ystrad Mynach, gwaith hyrwyddo ar gyfer y daith nesaf yn y Deyrnas Unedig

Homes, Caerdydd, hyrwyddo’r gân gyntaf y byddan nhw’n ei rhyddhau

HVNTER, Pontypridd, recordio’r gân gyntaf y bydd yn ei rhyddhau

Ifan Dafydd, Ynys Môn, offer stiwdio ar gyfer cerddoriaeth electronig

Joe Kelly, Casnewydd, recordio a hyrwyddo’r gân gyntaf y bydd yn ei rhyddhau

Junior Bill, Caerdydd, costau stiwdio, peiriannydd, cynhyrchydd, cymysgu a recordiadau meistr ar gyfer ei EP nesaf

La Forme, Casnewydd, System PA ar gyfer perfformiadau yng Nghasnewydd

Lily Beau, Caerdydd, cynhyrchu ei hail EP

Mellt, Aberystwyth, amser yn y stiwdio

Sam Parsons, Felinheli, amser yn y stiwdio ac amser cynhyrchydd

The Cradles, Caerdydd, marchnata ar y radio ac ar-lein

The People The Poet, Pontypridd, gwaith hyrwyddo yn y wasg ac ar y radio

The Roseville Band, Wrecsam, cymorth i deithio yn y Deyrnas Unedig

Tolerance, Abertawe, offer llinynnol symffonig i’r stiwdio

Violet Skies, Cas-gwent, cymysgu a recordiadau meistr

Voes, Abertyleri, offer ar gyfer gweithgareddau byw

Y Reu, Caernarfon, amser yn y stiwdio a chludiant