Bailey Gwynne (Llun Heddlu'r Alban)
Fe fydd bachgen ysgol yn y llys am yr ail dro i wynebu cyhuddiadau o lofruddio’i gyd-ddisgybl Bailey Gwynne a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn ei ysgol yn Aberdeen.

Cafodd Bailey Gwynne ei gymryd i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ar ôl gael ei drywanu yn Academi Cults yn Aberdeen ddydd Mercher diwethaf. Bu farw yn fuan ar ôl hynny.

Mae’r bachgen 16 oed, nad oes hawl ei enwi am resymau cyfreithiol , wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar roedd wedi bod o flaen Llys Siryf Aberdeen y tro cynta’ ddydd Gwener ddiwethaf.

Bryd hynny, wnaeth e ddim pledio na rhoi datganiad a chafodd ei gadw yn y ddalfa wedi’i achos.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o feddu ar wrthrych â llafn miniog ar safle ysgol, sy’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cyfraith Trosedd.

Datganiad y teulu

Fe ddiolchodd teulu Bailey Gwynne i bobl am y gefnogaeth y maen nhw wedi’i gael ar ddechrau’r wythnos hon wrth i ddisgyblion fynd yn ôl i Academi Cults.

“Diolch am eich holl help. Eich geiriau caredig a’r pethau hyfryd yr ydych chi wedi’u gadael i Bailey,” meddan nhw mewn datganiad a gafodd ei ryddhau drwy Heddlu’r Alban.

“Mae’n golygu llawer a byddai wedi golygu llawer i Bailey.”