Gwefan y Llywodraeth yn dangos rhai o'r ardaloedd menter
Doedd dim un swydd o gwbl wedi ei chreu yn un o Ardaloedd Menter newydd Llywodraeth Cymru, yn ôl ffigurau swyddogol.
Dim ond saith yr un a gafodd eu creu mewn dwy ardal arall – ond roedd yna ddwy wedi creu tua 500 o swyddi yr un.
Yn awr, mae llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi gofyn am eglurhad pam fod cyn lleied o swyddi wedi eu creu yn yr ardaloedd menter a chymaint o swyddi newydd yng ngweddill yr economi.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyw hi ddim yn addas i gymharu un parth â’r llall.
Y ffigurau
Yn ôl y ffigurau swyddogol, doedd dim swyddi newydd wedi eu creu yn Ardal Fenter Eryri yn Nhrawsfynydd.
Dim ond saith swydd yr un oedd wedi eu creu yn ardaloedd Sain Tathan a Glyn Ebwy.
Yr ardal fwya’ llwyddiannus oedd un Caerdydd gyda mwy na 500 o swyddi a Glannau Dyfrdwy gydag ychydig llai na hynny.
Ansawdd swyddi a gobeithion tymor hir oedd bwysica’, meddai Cadeirydd Ardal Fenter Sain Tathan, Tristan Garel-Jones ar Radio Wales.