Maes awyr Sharm el-Sheikh (On Tour CCA 3.0)
Fe ddylai’r rhan fwya’ o dwristiaid o wledydd Prydain fod wedi cyrraedd yn ôl o’r Aifft erbyn diwedd y dydd, meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

Ond fe fydd rhaid i’r miloedd o deithwyr adael y rhan fwya’ o’u bagiau ar ôl wrth i bump cwmni baratoi i hedfan pobol o ganolfan wyliau Sharm el-Sheikh.

Roedd ehediadau oddi yno wedi eu hatal ddydd Mercher ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi eu bod nhw’n eitha’ sicr mai bom wedi’i osod gan y mudiad Moslemaidd milwrol, IS, oedd yn gyfrifol am chwalu awyren Rwsiaidd dros y Sul.

Cwestiynau diogelwch

Fe fu swyddogion o wledydd Prydain yn trafod gyda’r awdurdodau yn yr Aifft i sicrhau diogelwch y teithwyr cyn i’r teithiau ddechrau heddiw – y disgwyl yw y bydd tua 4,000 o deithwyr yn cael eu hedfan yn ôl.

Mae rhai ohonyn nhw’n honni bod trefniadau diogelwch yn y maes awyr yn llac cyn hyn, gyda modd talu i osgoi archwiliadau.

Ond roedd arbenigwyr o wledydd Prydan wedi bod yn Sharm el-Sheikh ddechrau’r flwyddyn gan benderfynu bod y trefniadau’n addas.

Negeseuon

Yn ôl rhai adroddiadau, roedd gwasanaethau cudd gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau wedi dod o hyd i negeseuon digidol yn dangos mai IS oedd yn gyfrifol am ymosod ar yr awyren Rwsiaidd gan ladd 224 o bobol.

Yr honiad yw fod bom wedi ei osod yn howld yr awyren Metrojet Airbus A321 ac wedi ffrwydro wrth iddi groesi’r anialwch.

Mae’r Eifftiaid yn anhapus am fod y gwaharddiad ar hedfan wedi cael ei wneud heb ymgynghori â’r Arlywydd Sisi, sy’n ymweld â gwledydd Prydain ar hyn o bryd.