Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi mynnu eu bod yn cymryd camau i wyrdroi’r busnes yn dilyn gostyngiad arall mewn gwerthiant.
Roedd gwerthiant wedi gostwng 2.6% yn y trydydd chwarter hyd at 1 Tachwedd. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys tanwydd.
Dywedodd Morrisons bod y gostyngiad o ganlyniad i’w penderfyniad i dorri nôl ar dalebau hyrwyddo er mwyn cynnig prisiau is yn eu siopau.
Mae’r gostyngiad yn waeth na’r 2.4% a welwyd yn y tri mis blaenorol.
Yn ôl y prif weithredwr David Potts mae’r cwmni yn cymryd camau “ar y daith hir i wella’r profiad siopa i gwsmeriaid” a’u bod yn gwneud “cynnydd da.”
Ym mis Medi fe gyhoeddodd y cwmni ei fod yn cau 11 archfarchnad gan roi 900 o swyddi yn y fantol.
Mae hefyd wedi cytuno i werthu 140 o’i siopau lleol M am oddeutu £25m er mwyn canolbwyntio ar yr archfarchnadoedd mwy.
Roedd elw’r cwmni wedi gostwng 47% i £126 miliwn.