Canolfan wyliau Sharm el-Sheikh, yn yr Aifft
Mae miloedd o dwristiaid yng nghanolfan wyliau Sharm el-Sheikh yn yr Aifft wedi methu a dychwelyd i’r DU ar ôl i deithiau awyren gael eu hatal am y tro.

Daw penderfyniad Llywodraeth y DU ar ôl i gudd wybodaeth  awgrymu bod ‘posibilrwydd gwirioneddol’ mai bom a achosodd i awyren o Rwsia daro’r ddaear ym Mhenrhyn Sinai yn yr Aifft dros y penwythnos.

Bu farw pob un o’r 224 o bobl ar fwrdd yr awyren Metrojet Airbus A321-200 a oedd yn teithio o Sharm el-Sheikh i St Petersburg yn Rwsia.

Mae mesurau sgrinio brys mewn lle ym maes awyr Sharm el-Sheikh er mwyn caniatáu i Brydeinwyr gael hedfan yn ôl i’r DU.

Cafodd teithiau awyren eu hatal  yn dilyn archwiliad gan  dîm o arbenigwyr o’r DU i asesu trefniadau diogelwch yn y maes awyr.

Yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor brys Cobra neithiwr, a gafodd ei gadeirio gan y Prif Weinidog, fe benderfynwyd cyhoeddi rhybudd yn erbyn teithio o’r maes awyr oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, gan arwain at atal teithiau i faes awyr Sharm el-Sheikh, ac oddi yno i’r DU.

‘Bygythiad’

Mae gweinidog tramor yr Aifft, Sameh Shoukry, wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad “diangen” gan rybuddio y bydd yn niweidio’r diwydiant twristiaeth yno.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond ei fod yn cydnabod y posibilrwydd o’r “effaith negyddol enfawr” ond mynnodd nad oedd dewis gan weinidogion ond gweithredu yn dilyn cudd-wybodaeth maen nhw’n  “credu sy’n fygythiad i Brydeinwyr.”

Yn y cyfamser mae Arlywydd yr Aifft Abdel Fatah al-Sisi wedi cyrraedd y DU ar gyfer trafodaethau gyda David Cameron yn Downing Street heddiw.

Mae swyddogion yn gweithio gyda chwmnïau awyrennau er mwyn darganfod ffyrdd diogel i ddychwelyd pobl yn ol i’r DU ac mae disgwyl i hediadau ail-ddechrau yfory. Ond fe rybuddiodd Philip Hammond y gallai’r broses gymryd hyd at 10 diwrnod.

Credir bod 20,000 o Brydeinwyr yn Sharm el-Sheikh ar hyn o bryd. Dywed y Swyddfa Dramor bod y cyngor newydd ynglŷn a theithio yn ymwneud a’r maes awyr yn unig a bod y ganolfan wyliau yn cael ei hystyried yn ddiogel.

Fe fydd David Cameron yn cadeirio cyfarfod arall o Cobra bore ma, meddai Downing Street.