Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi cynnydd o 6.1% i £284 miliwn yn ei elw cyn treth.

Serch hynny mae ’na ragor o bwysau ar adran ddillad y cwmni ar ôl i werthiant nwyddau cyffredinol ostwng 1.9% yn yr ail chwarter.

Mae elw’r cwmni yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn hyd at 26 Medi yn well na’r disgwyl o ganlyniad i werthiant yn ei adran fwyd.

Ond mae penderfyniad y cwmni i beidio â dilyn ei gystadleuwyr a chynnig prisiau is wedi arwain at ostyngiad yng ngwerthiant nwyddau cyffredinol.