Mae cyn-gapten tîm criced Lloegr, Tom Graveney wedi marw’n 88 oed.

Roedd yn dioddef o glefyd Parkinson.

Yn ystod ei yrfa, fe gynrychiolodd siroedd Caerloyw a Chaerwrangon.

Chwaraeodd dros Loegr 79 o weithiau rhwng 1951 a 1969, gan sgorio 4,882 o rediadau ar gyfartaledd o 44.38, gan gynnwys 11 canred.

Wedi ymddeol, roedd yn gadeirydd yr MCC yn 2005 ac yn aelod oes er anrhydedd o’r clwb.

Bu farw ei frawd Ken, cyn-gapten Swydd Gaerloyw, yn 90 oed yr wythnos diwethaf.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Prif Weithredwr Swydd Gaerwrangon, David Leatherdale: “Fe fu Tom yn ffigwr mawr yn hanes Swydd Gaerwrangon ac mae pawb yn y clwb yn drist o ganlyniad i’r newyddion heddiw, ac mae ein meddyliau gyda’r teulu Graveney yn y cyfnod trist hwn.

“Roedd yn un o hoelion wyth ein dau lwyddiant cyntaf yn y Bencampwriaeth ac fe fydd pawb yng Nghlwb Criced Swydd Gaerwrangon a’r byd criced ar y cyfan yn gweld ei eisiau’n fawr.”

Ychwanegodd Clwb Criced Swydd Gaerloyw eu bod nhw’n “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.