Harry Wilson wedi'i gynnwys yn y garfan
Mae Cymru wedi enwi eu carfan dan-21 ar gyfer gemau rhagbrofol yn erbyn Armenia a Rwmania wrth iddyn nhw frwydro i geisio cyrraedd Ewro 2017.

Dyw tîm Geraint Williams dal heb golli yn yr ymgyrch hyd yn hyn, ar ôl trechu Bwlgaria a Lwcsembwrg a chael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Denmarc, y prif ddetholion.

Mae’r garfan ddiweddaraf yn cynnwys Harry Wilson a Declan John, y ddau ohonynt eisoes wedi ennill capiau llawn dros Gymru.

Fe fydd Cymru’n herio Armenia, sydd heb ennill yr un o’u pedair gêm hyd yn hyn, ar nos Wener 13 Tachwedd yn Stadiwm Prifysgol Bangor am 2.00yp.

Y dydd Mawrth canlynol am 6.00yh fe fydd y sêr ifanc yn wynebu Rwmania, sydd yn ail yn y grŵp ar hyn o bryd, ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Carfan dan-21 Cymru

Billy O’Brien (Manchester City), Michael Crowe (Ipswich)

Declan John (Caerdydd), Gethin Jones (Everton), Jordan Evans (Fulham), Joseph Wright (Huddersfield, ar fenthyg yn Accrington Stanley), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Josh Yorwerth (Ipswich, ar fenthyg yn Crawley)

Josh Sheehan (Abertawe, ar fenthyg yn Yeovil), Lee Evans (Wolves, ar fenthyg yn Bradford City), Ryan Hedges (Abertawe), Tom O’Sullivan (Caerdydd, ar fenthyg yn Casnewydd)

Wes Burns (Bristol City), Ellis Harrison (Bristol Rovers), Harry Wilson (Lerpwl, ar fenthyg yn Crewe Alexandra), Jake Charles (Huddersfield), Liam Shephard (Abertawe), Louis Thompson (Norwich City, ar fenthyg yn Swindon)