Mae aelodau Plaid Lafur ac undebau llafur yr Alban wedi pleidleisio i wrthwynebu adnewyddu cytundeb niwclear Trident.

Pleidleisiodd 70% o fynychwyr cynhadledd flynyddol y blaid yn Perth yn erbyn y polisi dadleuol.

Mae Trident wedi’i leoli yn Faslane ar lannau afon Clud.

Mae’r bleidlais yn golygu bellach fod y Blaid Lafur yn yr Alban a Lloegr yn anghydweld.

Dywedodd Jeremy Corbyn eisoes ei fod yn gwrthwynebu Trident, yn groes i’w blaid yn Lloegr, ond mae’r arweinydd yn yr Alban, Kezia Dugdale yn cefnogi’r polisi.