Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad yng nghanol dinas Abertawe yn oriau man y bore ma.

Roedd adroddiadau lleol y bore ma’n awgrymu bod y dyn wedi cael ei drywanu, ond dydy’r heddlu ddim wedi rhoi rhagor o fanylion hyd yn hyn.

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Cafodd yr heddlu eu galw i Princess Way am oddeutu 3 o’r gloch y bore, ac mae’r ffordd ynghau o hyd.