Endaf Griffiths yn ennill Cadair CFfI Ceredigion, ei ail gadair mewn ail sir
Fe lwyddodd bardd ifanc o Geredigion i greu darn bach o hanes trwy ennill cadeiriau sirol y Ffermwyr Ifanc mewn dwy sir wahanol un flwyddyn ar ôl y llall.

Endaf Griffiths o Glwb Pontsian a enillodd Gadair Ceredigion eleni, flwyddyn ar ôl iddo enill Cadair Sir Gâr ar ran Clwb Dyffryn Cothi.

Mae’r cynganeddwr 21 oed, sy’n gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ar waith T. Llew Jones, newydd symud i bentre’ Cwmsychbant yng Ngheredigion.

Fe enillodd Gadair Ceredigion gyda cherdd i T. Llew Jones – cymysgedd o awdl gynganeddol a darn rhydd yn dynwared un o gerddi enwoca’ T. Llew, Cwm Alltcafan.

Yn ôl y beirniad, Aneirin Karadog, mae’n “gynganeddwr medrus” sy’n “deall T. Llew i’r dim” a doedd prin ddim beiau o gwbl yn ei gerdd – “cerdd wych”.

Clwb Llanwenog oedd enillwyr yr eisteddfod unwaith eto – y canlyniadau fan hyn.